Diolch i chi am ddewis adrodd yn ddienw.
Rydyn ni’n deall y gall hyn fod yn adeg anodd i chi, ac rydyn ni eisiau cydnabod y dewrder sydd ei angen i siarad allan. Hyd yn oed os ydych chi’n ffafrio peidio â rhannu eich hunaniaeth, mae eich adroddiad yn dal i fod yn hynod bwysig ac yn ein helpu gyda’n hymdrechion parhaus i sicrhau bod ein cymuned brifysgol yn teimlo’n ddiogel, yn cael cefnogaeth ac yn cael ei pharchu.
Sylwer y gall adroddiadau dienw gyfyngu ar ein gallu i weithredu mewn achosion unigol.
Mae hyn oherwydd bod gan fyfyriwr neu aelod o staff sy’n destun cwyn (Myfyriwr/Staff sy’n ateb) yr hawl i gael gwybod a rhoi ymateb. Er mwyn sicrhau proses deg, rhaid i unrhyw un sy’n gwneud adroddiad ddeall y bydd eu datganiad a phob tystiolaeth gymorth yn cael eu rhannu gyda’r Myfyrwyr/Staff sy’n Ateb. Bydd angen i honiadau neu ddatganiadau dienw fel arfer cael eu cefnogi gan dystiolaeth arall a/neu dystion adnabod i allu cael eu dilyn i ymchwiliad. O ganlyniad, fel arfer nid yw’r Brifysgol yn derbyn honiadau neu ddatganiadau tystion dienw fel sail unig i ymchwiliad lle mae’r tyst yn dymuno aros heb ei adnabod.
Gall unrhyw un sy’n datgelu gwybodaeth y credant yn rhesymol ei bod yn wir ac sydd o ddiddordeb cyhoeddus wneud adroddiadau yn eu henw eu hunain neu’n ddi-enw. Rydym yn annog tryloywder ac yn cefnogi’r rhai sy’n codi pryderon dilys. Gellir gweld y polisi datgelu gwybodaeth yma: usw-whistleblowing-policy-and-procedure.pdf
Serch hynny, mae eich adroddiad yn dal i chwarae rôl hanfodol.
Mae’r wybodaeth a darparwch yn ein helpu i fonitro tueddiadau, adnabod patrwm, a siapio ein hymateb i faterion fel cam-drin rhywiol, aflonyddwch, bwlio, a digwyddiadau o gasineb. Yn aml, mae adroddiadau di-enw’n rhoi’r unig fewnwelediad sydd gennym i ymddygiadau penodol, ac maent yn hanfodol i’n hymdrechion i atal a mynd i’r afael a’r mathau hyn o niwed.
Trwy rannu cymaint o fanylion ag y gallwch, rydych yn ein helpu i wneud gwahaniaeth.
Mae eich llais yn cyfrannu at newid ystyrlon, ac rydym yn ddiolchgar iawn am eich parodrwydd i siarad allan.
Beth sydd nesaf?
Efallai na fydd adrodd yn ddienw yn arwain at ymchwiliad ffurfiol, felly os ydych chi, neu eraill, eisiau codi pryder ffurfiol neu siarad â rhywun, dewiswch adrodd gyda manylion.
Beth fydd yn digwydd gyda’m data i ?
Mae eich data’n bwysig i ni. Ni fyddwn yn casglu na storio unrhyw wybodaeth sydd yn gwrthdaro a’n polisi preifatrwydd.