Diolch am roi gwybod i ni fod rhywbeth wedi digwydd. Efallai y bydd pethau'n teimlo'n anodd neu'n galed ar hyn o bryd ond trwy ddewis darparu eich manylion cyswllt byddwn yn gallu helpu i roi gwell cymorth i chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod.
Mae Adrodd a Chefnogi yma i roi cyngor ac i weithredu pan fydd digwyddiadau difrifol yn digwydd i staff a myfyrwyr PDC. Os oes gennych ddiddordeb mewn adrodd am broblem gyffredinol (fel problemau gyda chyfleusterau ar y campws neu gyngor ar gael mynediad at wasanaethau penodol), peidiwch â defnyddio'r ffurflen hon, yn hytrach, gwiriwch yr ardal gynghori am y manylion cyswllt perthnasol.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Unwaith y byddwch wedi llenwi’r ffurflen hon, os ydych yn fyfyriwr, bydd aelod o Dîm yr Ardal Gynghori yn cysylltu â chi. Bydd ffurflenni a gyflwynir gan gydweithwyr yn y Brifysgol a PSS Ltd yn cael eu rheoli gan AD. Ni fydd llenwi ffurflen trwy Adrodd a Chefnogi yn dechrau proses gwyno ffurfiol. Fodd bynnag, os ydych yn cynnwys gwybodaeth adnabod fel enw rhywun, a bod gennym bryderon am risg, efallai y bydd yn rhaid i ni weithredu.
Beth sy'n digwydd gyda fy nata?
Mae eich data yn bwysig i ni. Ni fyddwn yn casglu nac yn storio unrhyw wybodaeth sy'n mynd yn groes i'n polisi preifatrwydd.