Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel i holl aelodau cymuned PDC, gan gynnwys myfyrwyr, cydweithwyr, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr. Ni oddefir camdriniaeth o unrhyw fath yn erbyn neb.
Beth yw Diogelu?
Mae 'diogelu' yn golygu atal ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso ac addysgu'r rhai o'u cwmpas i adnabod yr arwyddion a'r peryglon.
Mae ‘Plentyn’ yn y cyd-destun hwn yn golygu unigolyn o dan 18 oed.
Mae ‘Oedolyn mewn Perygl’ yn disgrifio unrhyw un dros 18 oed sy’n profi neu mewn perygl o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso ac sydd ag anghenion gofal a chymorth (p’un a yw’r awdurdod yn diwallu unrhyw un o’r anghenion hynny ai peidio) ac o ganlyniad i’r anghenion hynny nad yw’n gallu amddiffyn eu hunain rhag y cam-drin neu’r esgeulustod neu’r risg o hynny.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ymagwedd PDC at ddiogelu yma: Polisi Diogelu PDC a Gwybodaeth Ategol
Cymorth ar frys (iechyd meddwl)
Os ydych chi, neu fyfyriwr yr ydych mewn cysylltiad ag ef, angen ymyriad brys
gan ymarferydd iechyd meddwl, dylech lenwi Ffurflen Pryder Lles Iechyd Meddwl
Mae hyn yn cynnwys achosion lle:
- rydych chi/y myfyriwr yn profi anawsterau Iechyd Meddwl sylweddol sy'n cael effaith andwyol ar eich/eu (h)astudiaethau a gallu i gyflawni gweithgareddau o ddydd i ddydd.
- mae angen cymorth brys arnoch chi/ar y myfyriwr oherwydd bod risg i'ch iechyd a'ch lles chi neu i bobl eraill.
Rhoi gwybod am bryder diogelu
I roi gwybod am bryder diogelu, cliciwch y botwm isod.
Offeryn adrodd yw hwn sy’n darparu lleoliad canolog i gymuned PDC wneud adroddiadau diogelu. Mae uwch aelodau PDC yn derbyn y wybodaeth a gyflwynir, sy'n cael ei darllen o fewn un diwrnod gwaith, gyda chamau priodol yn cael eu cymryd o fewn 48 awr.