Nid yw unrhyw fath o aflonyddu byth yn iawn. Nid ydym yn goddef ymddygiad annerbyniol, gan gynnwys pob math o aflonyddu. 
 
Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod wedi cael eich effeithio gan aflonyddu, yna rydym yn eich annog i roi gwybod amdano a cheisio cefnogaeth. 
 
Mae aflonyddu yn ymddygiad digroeso sydd â'r pwrpas neu'r effaith o darfu ar urddas unigolyn, neu greu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol, bychanol neu dramgwyddus. Gall aflonyddu ddigwydd yn gorfforol, yn eiriol neu'n ddieiriau a gall fod yn fwriadol neu'n anfwriadol. Mae hefyd yn cynnwys trin rhywun yn llai ffafriol oherwydd eu bod wedi ymostwng neu wedi gwrthod ymostwng i ymddygiad o’r fath yn y gorffennol. 
 
Gall aflonyddu gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i: 
  • ymddygiad corfforol digroeso gan gynnwys: cyffwrdd, pinsio, gwthio, cydio, brwsio heibio rhywun, goresgyn eu gofod personol a ffurfiau mwy difrifol o ymosodiad corfforol neu rywiol 
  • sylwadau neu ystumiau sarhaus neu fygythiol, neu jôcs neu branciau ansensitif 
  • gwatwar, dynwared neu fychanu anabledd person 
  • jôcs hiliol, rhywiaethol, homoffobig neu oedraniaethol, neu sylwadau difrïol neu ystrydebol am grŵp neu ryw ethnig neu grefyddol penodol 
  • cyhoeddi neu fygwth cyhoeddi rhywun "allan" fel rhan o'r gymuned LGBTQ+ 
  • anwybyddu neu droi eich cefn ar rywun, er enghraifft, trwy eu gadael allan o sgwrs neu weithgaredd cymdeithasol yn fwriadol. 
Gall rhywun gael ei aflonyddu hyd yn oed os nad nhw oedd y "targed" bwriedig. Er enghraifft, gall person gael ei aflonyddu gan jôcs hiliol am grŵp ethnig gwahanol os ydynt yn creu amgylchedd sarhaus. 
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd