Nid yw unrhyw fath o fwlio byth yn iawn. Nid ydym yn goddef ymddygiad annerbyniol, gan gynnwys pob math o fwlio. 
 
Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod wedi cael eich effeithio gan fwlio yna rydym yn eich annog i roi gwybod amdano a cheisio cefnogaeth. 
 
Gall fod yn anodd deall beth yw bwlio oni bai eich bod wedi ei brofi neu ei weld. 
 
Bwlio
Bwlio yw brifo un person neu grŵp tro ar ôl tro ac yn fwriadol gan berson neu grŵp arall. Gall bwlio fod yn gorfforol, geiriol, di-eiriau neu seicolegol. 
 
Gall bwlio gynnwys: 
  • gweiddi ar, bod yn goeglyd tuag at, gwawdio neu ddirmygu eraill 
  • bygythiadau corfforol neu seicolegol 
  • lefelau goruchwylio gormesol a bygythiol 
  • sylwadau amhriodol a/neu ddifrïol am berfformiad rhywun 
  • camddefnydd o awdurdod neu bŵer gan y rhai sydd mewn swyddi uchel 
  • gwahardd rhywun yn fwriadol o gyfarfodydd neu gyfathrebiadau heb reswm da 
  • postio cynnwys bwlio ar gyfryngau cymdeithasol 
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd