Nid yw unrhyw fath o gamymddwyn rhywiol, ymosodiad neu aflonyddu byth yn iawn. Os ydych yn meddwl eich bod wedi bod yn darged camymddwyn rhywiol, ymosod neu aflonyddu, efallai y bydd yn anodd gwybod beth i'w wneud neu sut i deimlo.

Nid chi oedd ar fai am yr hyn a ddigwyddodd. Chi sydd i ddewis yr hyn a wnewch nesaf.
 
Meddwl 
  • Ydych chi mewn perygl uniongyrchol? Os ydych mewn perygl uniongyrchol neu wedi'ch anafu'n ddifrifol, gallwch gysylltu â'r gwasanaethau brys ar 999 (neu 112 o ffôn symudol). 
  • Dod o hyd i le diogel. Os yw digwyddiad newydd ddigwydd ceisiwch ddod o hyd i rywle rydych chi'n teimlo'n ddiogel. 
  • Beth yw camymddwyn rhywiol, ymosod ac aflonyddu?  Gallai fod yn ddefnyddiol meddwl am yr hyn a olygir gan y termau hyn a sut y disgrifir yr ymddygiadau hyn. 
Adrodd 
  • Adrodd a Chymorth. Gall myfyrwyr a staff roi gwybod am ddigwyddiad gan ddefnyddio system Adrodd a Chymorth y Brifysgol. Gallwch ddewis gwneud hyn yn ddienw neu gallwch roi gwybod gyda'ch manylion cyswllt a bydd aelod priodol o staff yn cysylltu â chi. Bydd yr aelod o staff yn gallu siarad am yr opsiynau a'r cymorth sydd ar gael, yn gyfrinachol. 
Cymorth 
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd