Nid yw unrhyw fath o wahaniaethu byth yn iawn. Mae gwahaniaethu’n digwydd pan fydd unigolyn neu grŵp o bobl yn cael eu trin yn llai ffafriol nag eraill ar sail nodwedd warchodedig megis oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil (mewn cyflogaeth), beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred (gan gynnwys diffyg cred), rhyw neu rywedd, cyfeiriadedd rhywiol. 
 
Meddwl 
  • Beth yw gwahaniaethu? Gallai fod yn ddefnyddiol meddwl am sut mae'r brifysgol yn diffinio gwahaniaethu.
 Siarad 
  • Os oes ffrind, aelod o'r teulu, aelod o staff, neu gydweithiwr yr ydych yn ymddiried ynddo, ystyriwch drafod pethau gyda nhw. 
  • Tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) PDC. Mae Tîm EDI y Brifysgol yn hapus i siarad â chi am weithdrefnau'r Brifysgol, sut i wneud cwyn a pha gymorth sydd ar gael, yn gyfrinachol. Gellir cysylltu â’r Tîm EDI drwy e-bostio equality@southwales.ac.uk 
Adrodd
  • Adrodd a Chymorth. Gall myfyrwyr a staff roi gwybod am ddigwyddiad gan ddefnyddio system Adrodd a Chymorth y Brifysgol. Gallwch ddewis gwneud hyn yn ddienw neu gyda'ch manylion cyswllt er mwyn i aelod priodol o staff gysylltu â chi. Os byddwch yn dewis rhoi gwybod gyda'ch manylion cyswllt gall aelod o staff drafod yr opsiynau a'r cymorth sydd ar gael i chi, yn gyfrinachol. 
Cymorth
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd