Nid yw unrhyw fath o ddigwyddiad casineb neu drosedd casineb byth yn iawn. Digwyddiad neu drosedd casineb yw unrhyw weithred o drais neu elyniaeth yn erbyn person neu eiddo a ysgogir gan elyniaeth neu ragfarn tuag at berson oherwydd nodwedd warchodedig arbennig.
 
Meddwl 
  • Ydych chi mewn perygl uniongyrchol? Os ydych mewn perygl uniongyrchol neu wedi'ch anafu'n ddifrifol, gallwch gysylltu â'r gwasanaethau brys ar 999 (neu 112 o ffôn symudol). 
  • Dod o hyd i le diogel. Os yw digwyddiad newydd ddigwydd ceisiwch ddod o hyd i rywle rydych chi'n teimlo'n ddiogel.
  • Beth yw digwyddiadau casineb a throseddau casineb? Gallai fod yn ddefnyddiol meddwl am yr hyn a olygir gan ddigwyddiadau casineb a throseddau casineb a sut y disgrifir yr ymddygiadau hyn.
Adrodd
  • Adrodd a Chymorth. Gall myfyrwyr a staff roi gwybod am ddigwyddiad gan ddefnyddio system Adrodd a Chymorth y Brifysgol. Gallwch ddewis gwneud hyn yn ddienw neu gyda'ch manylion cyswllt er mwyn i aelod priodol o staff gysylltu â chi. Os byddwch yn dewis rhoi gwybod gyda'ch manylion cyswllt gall aelod o staff drafod yr opsiynau a'r cymorth sydd ar gael i chi, yn gyfrinachol.
Cymorth
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd