Nid yw unrhyw fath o sbeicio byth yn iawn. Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi cael eich sbeicio neu'n gwybod yn sicr, oherwydd cymorth meddygol a gawsoch, gall fod yn anodd gwybod beth i'w wneud nesaf neu sut i deimlo. Efallai eich bod yn gwybod bod rhywbeth wedi digwydd ond ddim yn cofio popeth - mae hyn yn normal ac yn effaith y cyffur a ddefnyddiwyd. Nid yw'n golygu nad iddo ddigwydd.
Nid chi oedd ar fai am yr hyn a ddigwyddodd. Chi sydd i ddewis yr hyn a wnewch nesaf.
Meddwl
- Os ydych yn credu eich bod wedi cael eich sbeicio a'ch bod ar noson allan, siaradwch â staff y lleoliad ar unwaith. Os ydych yn pryderu y gallai’r person a sbeiciodd chi fod yn eich grŵp, pan fyddwch yn siarad â’r staff, cofiwch ‘Gofyn am Angela’. Ymadrodd cod yw hwn a fydd yn rhoi gwybod i'r staff i'ch tynnu'n ddi-ffwdan o'ch amgylchedd presennol.
- Os na allwch ddod o hyd i staff, neu os ydych mewn cartref preifat, dewch o hyd i ffrind rydych yn ymddiried ynddo a gofynnwch iddynt eich helpu i gael sylw meddygol. Dylech geisio cyrraedd yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys cyn gynted â phosibl er mwyn iddynt gymryd profion gwaed a monitro eich lles.
- Os ydych ar eich pen eich hun, neu os nad ydych yn teimlo y gallwch ymddiried yn y rhai gerllaw, ewch i le diogel a ffoniwch 111 am gyngor meddygol ar unwaith.
Adrodd
Mae yna wahanol ffyrdd y gallwch chi ddweud wrth rywun beth sydd wedi digwydd. Gallech wneud datgeliad i rywun, gwneud cwyn ffurfiol neu adrodd yn uniongyrchol i’r Heddlu.
- Ffoniwch 111: os nad oeddech yn gallu ceisio cymorth meddygol o'r blaen a bod y sbeicio wedi digwydd o fewn y 72 awr ddiwethaf efallai y gallant drefnu sampl gwaed a fydd yn dangos pa gyffur a ddefnyddiwyd.
- Cysylltwch â’r lleoliad lle digwyddodd y sbeicio: dylai fod gan bob lleoliad brosesau a pholisïau cwyno ar waith i ymdrin â digwyddiadau sy’n digwydd yn eu lleoliad. Bydd llawer eisiau gwybod (os nad ydynt eisoes) bod digwyddiad o sbeicio wedi bod.
- Report and Support: gallwch wneud datgeliad dienw neu adroddiad gyda manylion. Drwy ddarparu eich manylion cyswllt bydd cynghorydd yn gallu esbonio'r opsiynau a'r cymorth sydd ar gael i chi, yn gyfrinachol. Os byddwch yn dewis datgelu'n ddienw, ni fyddwn yn gallu cysylltu â chi ac mae'n annhebygol y byddwn yn cymryd camau ond mae'n ein helpu i gasglu data ar achosion o sbeicio.
- Rhoi gwybod i'r Heddlu: bydd llawer o heddluoedd yn caniatáu i chi roi gwybod am drosedd ar-lein – gallwch wirio pa un yw eich heddlu lleol yma. Gallwch hefyd gysylltu â’r Heddlu dros y ffôn drwy ddeialu 101.
Cymorth
- Fel myfyriwr gallwch hefyd estyn allan i’n Gwasanaeth Llesiant sy’n cynnig ystod o help a chefnogaeth. Gallwch fwcio apwyntiad gyda’r Gwasanaeth Llesiant, gyda Chynghorydd Llesiant a all siarad â chi am y cymorth sydd ar gael.
- Fel aelod o staff gallwch gael cymorth drwy'r Cynllun Cefnogi Staff, eich rheolwr neu AD drwy Bartner Busnes AD hrbusinesspartner@southwales.ac.uk
- Ceisio Cefnogaeth Allanol - Mae yna nifer o sefydliadau arbenigol allanol sy'n darparu cefnogaeth arbenigol, gan gynnwys cwnsela. Mae rhestr o sefydliadau i'w gweld yma.
- Gall Staff a Myfyrwyr estyn allan i Dîm EDI y Brifysgol drwy equality@southwales.ac.uk; neu i Gynghorwyr Urddas yn y Gwaith ac Astudio
- Gall staff estyn allan i Undebau Llafur perthnasol (UCU, Unsain a GMB)