Nid yw unrhyw fath o gamymddwyn rhywiol, ymosodiad neu aflonyddu byth yn iawn. Os ydych yn meddwl bod rhywun wedi bod yn darged camymddwyn rhywiol, ymosod neu aflonyddu, efallai y bydd yn anodd gwybod beth i'w wneud neu sut i deimlo. 

Beth allwch chi wneud? 

Meddwl
  • Ydyn nhw mewn perygl uniongyrchol? Os ydynt mewn perygl uniongyrchol neu wedi'u hanafu'n ddifrifol, gallwch gysylltu â'r gwasanaethau brys ar 999 (neu 112 o ffôn symudol).
  • Dod o hyd i le diogel. Os yw digwyddiad newydd ddigwydd ceisiwch ddod o hyd i rywle maen nhw'n teimlo'n ddiogel.
  • Beth yw camymddwyn rhywiol, ymosod ac aflonyddu? Gallai fod yn ddefnyddiol meddwl am yr hyn a olygir gan y termau hyn a sut y disgrifir yr ymddygiadau hyn. 
Adrodd 
  • Adrodd a Chymorth. Gall myfyrwyr a staff roi gwybod am ddigwyddiad gan ddefnyddio system Adrodd a Chymorth y Brifysgol. Gallwch ddewis gwneud hyn yn ddienw neu gallwch roi gwybod gyda'ch manylion cyswllt a bydd aelod priodol o staff yn cysylltu â chi. Bydd yr aelod o staff yn gallu siarad am yr opsiynau a'r cymorth sydd ar gael, yn gyfrinachol. 
Cymorth
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd