Nid yw unrhyw fath o wahaniaethu byth yn iawn. Mae gwahaniaethu’n digwydd pan fydd unigolyn neu grŵp o bobl yn cael eu trin yn llai ffafriol nag eraill ar sail nodwedd warchodedig megis oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil (mewn cyflogaeth), beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred (gan gynnwys diffyg cred), rhyw neu rywedd, cyfeiriadedd rhywiol.
Os ydych chi'n meddwl bod rhywun rydych chi'n ei adnabod wedi dioddef gwahaniaethu, mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi eu helpu.
Meddwl
- Beth yw gwahaniaethu? Gallai fod yn ddefnyddiol meddwl am yr hyn sy’n gyfystyr â gwahaniaethu anghyfreithlon.
Siarad
- Gwrandewch. Gall cymryd yr amser i wrando ar rywun a siarad am yr hyn sydd wedi digwydd helpu. Gallai'r chwe chyngor gwrando gweithredol hyn eich helpu i'w cefnogi nhw. (Cyhoeddwyd ar Hydref 4, 2015. Yn seiliedig ar ganllawiau'r Samariaid ar gyfer gwrando gweithredol.)
- Rhowch opsiynau. Pan fyddant wedi gorffen siarad, gofynnwch iddynt a ydynt yn iawn i drafod rhai opsiynau posibl a'r camau nesaf.
- Tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) PDC. Mae Tîm EDI y Brifysgol yn hapus i siarad â chi am weithdrefnau'r Brifysgol, sut i wneud cwyn a pha gymorth sydd ar gael, yn gyfrinachol. Gellir cysylltu â’r Tîm EDI drwy e-bostio equality@southwales.ac.uk
Adrodd
- Adrodd a Chymorth. Gall myfyrwyr a staff roi gwybod am ddigwyddiad gan ddefnyddio system Adrodd a Chymorth y Brifysgol. Gallwch ddewis gwneud hyn yn ddienw neu gyda'ch manylion cyswllt er mwyn i aelod priodol o staff gysylltu â chi. Os byddwch yn dewis rhoi gwybod gyda'ch manylion cyswllt gall aelod o staff drafod yr opsiynau a'r cymorth sydd ar gael i chi, yn gyfrinachol.
Cymorth
- Fel myfyriwr gallwch hefyd estyn allan i’n Gwasanaeth Llesiant sy’n cynnig ystod o help a chefnogaeth. Gallwch fwcio apwyntiad gyda’r Gwasanaeth Llesiant, gyda Chynghorydd Llesiant a all siarad â chi am y cymorth sydd ar gael.
- Fel aelod o staff gallwch gael cymorth drwy'r Cynllun Cefnogi Staff, eich rheolwr neu AD drwy Bartner Busnes AD hrbusinesspartner@southwales.ac.uk
- Ceisio Cefnogaeth Allanol - Mae yna nifer o sefydliadau arbenigol allanol sy'n darparu cefnogaeth arbenigol, gan gynnwys cwnsela. Mae rhestr o sefydliadau i'w gweld yma.
- Gall Staff a Myfyrwyr estyn allan i Dîm EDI y Brifysgol drwy equality@southwales.ac.uk; neu i Gynghorwyr Urddas yn y Gwaith ac Astudio
- Gall staff estyn allan i Undebau Llafur perthnasol (UCU, Unsain a GMB)