Nid yw unrhyw fath o aflonyddu byth yn iawn. Nid ydym yn goddef ymddygiad annerbyniol, gan gynnwys pob math o aflonyddu.

Os ydych chi'n adnabod rhywun sydd wedi'i effeithio gan aflonyddu, nid ydych chi ar eich pen eich hun ac mae cymorth ar gael. 

Beth allwch chi wneud?

Meddwl
  • Ydyn nhw mewn perygl uniongyrchol? Os ydynt mewn perygl uniongyrchol neu wedi'u hanafu'n ddifrifol, gallwch gysylltu â'r gwasanaethau brys ar 999 (neu 112 o ffôn symudol).
  • Dod o hyd i le diogel. Os yw digwyddiad newydd ddigwydd ceisiwch ddod o hyd i rywle maen nhw'n teimlo'n ddiogel. 
  • Beth yw aflonyddu? Gallai fod yn ddefnyddiol meddwl am yr hyn a olygir gan aflonyddu a sut y disgrifir yr ymddygiadau hyn.
Siarad  
  • Os yw hyn wedi effeithio ar rywun yr ydych yn ei adnabod, gallwch ei annog i roi gwybod a chael cymorth. Fel arall, gallwch wneud datgeliad dienw a fydd yn ein galluogi i ymchwilio i weld a oes sawl achos mewn un maes. 
Adrodd
  • Adrodd a Chymorth. Gall myfyrwyr a staff roi gwybod am ddigwyddiad gan ddefnyddio system Adrodd a Chymorth y Brifysgol. Gallwch ddewis gwneud hyn yn ddienw neu gyda'ch manylion cyswllt a bydd aelod priodol o staff yn cysylltu â chi. Os byddwch yn dewis rhoi gwybod gyda'ch manylion cyswllt gall aelod o staff drafod yr opsiynau a'r cymorth sydd ar gael i chi, yn gyfrinachol.
Cymorth
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd