Nid yw unrhyw fath o ddigwyddiad casineb neu drosedd casineb byth yn iawn. Os ydych chi'n adnabod rhywun sydd wedi'i effeithio gan aflonyddu, nid ydych chi ar eich pen eich hun ac mae cymorth ar gael. 

Digwyddiad neu drosedd casineb yw unrhyw weithred o drais neu elyniaeth yn erbyn person neu eiddo a ysgogir gan elyniaeth neu ragfarn tuag at berson oherwydd nodwedd warchodedig arbennig.

Beth allwch chi wneud?

Meddwl
  • Ydyn nhw mewn perygl uniongyrchol? Os ydynt mewn perygl uniongyrchol neu wedi'u hanafu'n ddifrifol, gallwch gysylltu â'r gwasanaethau brys ar 999 (neu 112 o ffôn symudol).
  • Dod o hyd i le diogel. Os yw digwyddiad newydd ddigwydd ceisiwch ddod o hyd i rywle maen nhw'n teimlo'n ddiogel. 
  • Beth yw digwyddiadau casineb a throseddau casineb? Gallai fod yn ddefnyddiol meddwl am yr hyn a olygir gan ddigwyddiadau casineb a throseddau casineb a sut y disgrifir yr ymddygiadau hyn. 
Siarad  
  • Os yw hyn wedi effeithio ar rywun yr ydych yn ei adnabod, gallwch ei annog i geisio cymorth. Fel arall, gallwch wneud datgeliad dienw a fydd yn ein galluogi i ymchwilio i weld a oes sawl achos mewn un maes. 
Adrodd
  • Adrodd a Chymorth. Gall myfyrwyr a staff roi gwybod am ddigwyddiad gan ddefnyddio system Adrodd a Chymorth y Brifysgol. Gallwch ddewis gwneud hyn yn ddienw neu gyda'ch manylion cyswllt er mwyn i aelod priodol o staff gysylltu â chi. Os byddwch yn dewis rhoi gwybod gyda'ch manylion cyswllt gall aelod o staff drafod yr opsiynau a'r cymorth sydd ar gael i chi, yn gyfrinachol.
Cymorth
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd