Nid yw unrhyw fath o sbeicio byth yn iawn. Os ydych chi'n meddwl y gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod wedi'i sbeicio neu'n gwybod yn sicr, oherwydd cymorth meddygol a gawsant, efallai y bydd yn anodd gwybod beth i'w wneud nesaf neu sut i'w helpu nhw. 

Os ydych chi'n adnabod rhywun sydd wedi'i effeithio gan sbeicio, nid ydych chi ar eich pen eich hun ac mae cymorth ar gael. 

Beth allwch chi wneud?

Meddwl
  • Os ydych chi'n credu bod rhywun rydych chi'n ei adnabod wedi cael ei sbeicio ar noson allan, siaradwch â staff y lleoliad ar unwaith. Os ydych yn pryderu y gallai’r person a sbeiciodd eich ffrind fod yn eich grŵp, pan fyddwch yn siarad â’r staff, cofiwch ‘Gofyn am Angela’. Ymadrodd cod yw hwn a fydd yn rhoi gwybod i'r staff i'ch tynnu chi a'r person wnaeth y sbeicio o'ch amgylchedd presennol yn ddi-ffwdan.  
  • Os na allwch ddod o hyd i staff, neu os ydych mewn cartref preifat, dylech geisio cyrraedd yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys cyn gynted â phosibl er mwyn iddynt gymryd profion gwaed a monitro lles eich ffrind. 
  • Os ydynt mewn perygl uniongyrchol neu wedi'u hanafu'n ddifrifol, gallwch gysylltu â'r gwasanaethau brys ar 999 (neu 112 o ffôn symudol). 
Siarad 
  • Os yw hyn wedi effeithio ar rywun yr ydych yn ei adnabod, gallwch ei annog i roi gwybod a chael cymorth. Fel arall, gallwch wneud datgeliad dienw a fydd yn ein galluogi i ymchwilio i weld a oes sawl achos mewn un maes.
Adrodd
  • Cysylltwch â’r lleoliad lle digwyddodd y sbeicio: dylai fod gan bob lleoliad brosesau a pholisïau cwyno ar waith i ymdrin â digwyddiadau sy’n digwydd yn eu lleoliad. Bydd llawer eisiau gwybod (os nad ydynt eisoes) bod digwyddiad o sbeicio wedi bod.
  • Adrodd a Chymorth.  Gall myfyrwyr a staff roi gwybod am ddigwyddiad gan ddefnyddio system Adrodd a Chymorth y Brifysgol. Gallwch ddewis gwneud hyn yn ddienw neu gyda'ch manylion cyswllt a bydd aelod priodol o staff yn cysylltu â chi. Os byddwch yn dewis rhoi gwybod gyda'ch manylion cyswllt gall aelod o staff drafod yr opsiynau a'r cymorth sydd ar gael i chi, yn gyfrinachol.
Cymorth 
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd