Nid yw bwlio byth yn iawn. Nid ydym yn goddef ymddygiad annerbyniol, gan gynnwys bwlio. 

Meddwl 
  • Ydych chi mewn perygl uniongyrchol? Os ydych mewn perygl uniongyrchol neu wedi'ch anafu'n ddifrifol, gallwch gysylltu â'r gwasanaethau brys ar 999 (neu 112 o ffôn symudol). 
  • Dod o hyd i le diogel. Os yw digwyddiad newydd ddigwydd ceisiwch ddod o hyd i rywle rydych chi'n teimlo'n ddiogel.
  • Beth yw bwlio? Gallai fod yn ddefnyddiol meddwl am yr hyn a olygir gan fwlio a sut y disgrifir yr ymddygiadau hyn. 
Siarad 
  • Os oes ffrind, aelod o'r teulu, aelod o staff, neu gydweithiwr yr ydych yn ymddiried ynddo, ystyriwch drafod pethau gyda nhw.
  • Tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) PDC. Mae Tîm EDI y Brifysgol yn hapus i siarad â chi am weithdrefnau'r Brifysgol, sut i wneud cwyn a pha gymorth sydd ar gael, yn gyfrinachol. Gellir cysylltu â’r Tîm EDI drwy e-bostio equality@southwales.ac.uk 
Adrodd
  • Adrodd a Chymorth. Gall myfyrwyr a staff roi gwybod am ddigwyddiad gan ddefnyddio system Adrodd a Chymorth y Brifysgol. Gallwch ddewis gwneud hyn yn ddienw neu gyda'ch manylion cyswllt a bydd aelod priodol o staff yn cysylltu â chi. Os byddwch yn dewis rhoi gwybod gyda'ch manylion cyswllt gall aelod o staff drafod yr opsiynau a'r cymorth sydd ar gael i chi, yn gyfrinachol.
Cymorth 
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd