Mae rhoi gwybod i ni fod angen help arnoch yn gwbl normal a chredwn y dylai pob un o’n myfyrwyr a’n cydweithwyr allu siarad yn agored am eu hiechyd meddwl a’u lles. 

Os ydych chi'n poeni am eich iechyd meddwl a'ch lles, mae nifer o bethau y gallwch chi eu gwneud: 

Meddwl
  • Ydych chi mewn perygl uniongyrchol? Os ydych mewn perygl uniongyrchol neu wedi'ch anafu'n ddifrifol, gallwch gysylltu â'r gwasanaethau brys ar 999 (neu 112 o ffôn symudol). 
  • Dod o hyd i le diogel. Os yw digwyddiad newydd ddigwydd ceisiwch ddod o hyd i rywle rydych chi'n teimlo'n ddiogel.
Siarad  
  • Os oes ffrind, aelod o'r teulu, aelod o staff, neu gydweithiwr yr ydych yn ymddiried ynddo, ystyriwch drafod pethau gyda nhw. 
  • Mae undebau llafur yn grwpiau trefniadol o weithwyr sy'n dod at ei gilydd i gefnogi ei gilydd yn y gweithle neu'r man astudio. Mae nifer o undebau llafur ym Mhrifysgol De Cymru. Ar gyfer staff mae UCU, Unsain a GMB ac i fyfyrwyr mae Undeb y Myfyrwyr. 
Adrodd 
  • Rhoi gwybod am Bryder Iechyd Meddwl. Gall myfyrwyr a staff roi gwybod eu bod yn cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl gan ddefnyddio Ffurflen Pryder Iechyd Meddwl y Brifysgol. Bydd Cynghorydd Llesiant yn adolygu eich ffurflen ac yn cysylltu â chi i ddarparu cymorth priodol. 
Cymorth 
  • Fel myfyriwr gallwch hefyd estyn allan i’n Gwasanaeth Llesiant sy’n cynnig ystod o help a chefnogaeth. Gallwch fwcio apwyntiad gyda’r Gwasanaeth Llesiant, gyda Chynghorydd Llesiant a all siarad â chi am y cymorth sydd ar gael.
  • Fel aelod o staff gallwch gael cymorth drwy'r Cynllun Cefnogi Staff, eich rheolwr neu AD drwy Bartner Busnes AD hrbusinesspartner@southwales.ac.uk
  • Ceisio Cefnogaeth Allanol - Mae yna nifer o sefydliadau arbenigol allanol sy'n darparu cefnogaeth arbenigol, gan gynnwys cwnsela. Mae rhestr o sefydliadau i'w gweld yma.
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd