Os ydych chi'n poeni am iechyd meddwl a lles rhywun arall, mae nifer o bethau y gallwch chi eu gwneud: 

Meddwl
  • Ydyn nhw mewn perygl uniongyrchol? Os ydynt mewn perygl uniongyrchol neu wedi'u hanafu'n ddifrifol, gallwch gysylltu â'r gwasanaethau brys ar 999 (neu 112 o ffôn symudol).
  • Dod o hyd i le diogel. Os yw digwyddiad newydd ddigwydd ceisiwch ddod o hyd i rywle maen nhw'n teimlo'n ddiogel. 
Siarad  
  • Os ydych chi'n poeni am rywun, gallwch gysylltu â nhw i weld sut ydyn nhw, ac os ydyn nhw'n teimlo'n gyfforddus i drafod unrhyw bryderon. 
  • Mae undebau llafur yn grwpiau trefniadol o weithwyr sy'n dod at ei gilydd i gefnogi ei gilydd yn y gweithle neu'r man astudio. Mae nifer o undebau llafur ym Mhrifysgol De Cymru. Ar gyfer staff mae UCU, Unsain a GMB ac i fyfyrwyr mae Undeb y Myfyrwyr. 
Adrodd 
  • Rhoi gwybod am Bryder Iechyd Meddwl. Gall myfyrwyr a staff roi gwybod eu bod nhw, neu rywun maen nhw'n ei adnabod, yn cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl gan ddefnyddio Ffurflen Pryder Iechyd Meddwl y Brifysgol.Bydd Cynghorydd Llesiant yn adolygu eich ffurflen ac yn cysylltu â chi i ddarparu cymorth priodol.
Cymorth  
  • Fel myfyriwr gallwch hefyd estyn allan i’n Gwasanaeth Llesiant sy’n cynnig ystod o help a chefnogaeth. Gallwch fwcio apwyntiad gyda’r Gwasanaeth Llesiant, gyda Chynghorydd Llesiant a all siarad â chi am y cymorth sydd ar gael.
  • Fel aelod o staff gallwch gael cymorth drwy'r Cynllun Cefnogi Staff, eich rheolwr neu AD drwy Bartner Busnes AD hrbusinesspartner@southwales.ac.uk
  • Ceisio Cefnogaeth Allanol - Mae yna nifer o sefydliadau arbenigol allanol sy'n darparu cefnogaeth arbenigol, gan gynnwys cwnsela. Mae rhestr o sefydliadau i'w gweld yma.
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd