Nid yw unrhyw fath o gamymddwyn rhywiol, ymosodiad neu aflonyddu byth yn iawn. Os ydych yn meddwl eich bod wedi bod yn darged camymddwyn rhywiol, ymosod neu aflonyddu, efallai y bydd yn anodd gwybod beth i'w wneud neu sut i deimlo. 

Nid chi oedd ar fai am yr hyn a ddigwyddodd. Chi sydd i ddewis yr hyn a wnewch nesaf. 

Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod wedi cael eich effeithio gan gamymddwyn rhywiol, ymosodiad neu aflonyddu, yna rydym yn eich annog i geisio cymorth. 

Efallai nad ydych yn sicr os yw’r hyn yr ydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, wedi’i brofi yn cael ei ystyried yn gamymddwyn rhywiol, ymosodiad neu aflonyddu. Rydym yn eich annog i adolygu'r wybodaeth isod i ddeall sut mae'r brifysgol yn diffinio'r rhain. 

Camymddygiad Rhywiol 
Mae camymddwyn rhywiol yn fath o aflonyddu ac yn ymddygiad annerbyniol o natur rywiol. Gall gynnwys: 
  • aflonyddu rhywiol 
  • trais rhywiol 
  • trais partner agos 
  • ymosodiad rhywiol 
  • meithrin perthynas amhriodol ar-lein 
  • gorfodaeth neu fwlio ag elfennau rhywiol 
  • gwahoddiadau a galwadau rhywiol 
  • sylwadau
  • cyfathrebu di-eiriau
  • creu awyrgylch o anghysur 
  • adnoddau neu gynnydd a addawyd yn gyfnewid am fynediad rhywiol 

Mae cod ymddygiad myfyrwyr y Brifysgol yn diffinio camymddwyn rhywiol fel unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso a gyflawnir heb ganiatâd, trwy rym, braw neu orfodaeth. Mae’n cynnwys trais rhywiol, ymgais i dreisio, ymosodiad rhywiol, aflonyddu rhywiol, amlygiad anweddus, cam-drin rhywiol ar sail delwedd neu’r hyn a elwir yn “Pornograffi Dial”, a stelcian. Mae’n cynnwys camymddwyn rhywiol ar-lein, rhyw gamwedd o’r fath pan fydd rhywun yn bygwth rhannu eich cynnwys preifat a rhywiol ar-lein oni bai eich bod yn bodloni eu gofynion. 

Ymosodiad Rhywiol
Ymosodiad Rhywiol yw pan fydd un person yn cyffwrdd â pherson arall yn rhywiol yn fwriadol heb ei ganiatâd. Mae’n cynnwys ymosodiadau difrifol iawn fel treisio ac ymosodiad rhywiol sy’n cynnwys treiddiad heb ganiatâd, a hefyd cyswllt corfforol digroeso arall megis: 
  • byseddu 
  • cusanu
  • pinsio 
  • cofleidio 
Cydsyniad yw cytuno drwy ddewis a chael y rhyddid a’r gallu i wneud y dewis hwnnw. Mae person yn rhydd i wneud dewis os na fyddai dim byd drwg yn digwydd iddynt pe byddent yn dweud na. Mae galluedd yn ymwneud ag a yw rhywun yn gallu gwneud dewis yn gorfforol a/neu’n feddyliol a deall canlyniadau’r dewis hwnnw. 

Aflonyddu rhywiol
Gall aflonyddu rhywiol fod ar sawl ffurf a gall edrych fel: 
  • gwneud sylwadau neu ystumiau diraddiol yn rhywiol 
  • syllu neu bipo'n slei ar rywun 
  • jôcs neu gynigion rhywiol digroeso neu amhriodol 
  • e-byst, postiadau cyfryngau cymdeithasol neu negeseuon testun gyda chynnwys rhywiol 
  • gweithredoedd rhywiol digroeso a chyffwrdd, mathau o ymosodiad rhywiol 
  • arddangos lluniau rhywiol eglur mewn gofod a rennir, megis yn y gwaith 
  • tynnu llun i fyny sgert merch 
  • pornograffi dial 
Gall aflonyddu rhywiol ddigwydd yn breifat ond yn aml mae'n digwydd mewn mannau cyhoeddus gan gynnwys gweithleoedd, trafnidiaeth gyhoeddus ac ysgolion. Ble bynnag y mae'n digwydd, mae aflonyddu rhywiol yn drosedd. 

Stelcian
Mae ymddygiadau a allai fod yn gyfystyr â stelcian yn cynnwys: 
  • dilyn rhywun heb yn wybod iddynt neu mewn ffordd a all eu gwneud yn anghyfforddus 
  • cysylltu neu geisio cysylltu â rhywun pan fydd y person wedi dweud nad yw eisiau cyswllt 
  • monitro cyfryngau cymdeithasol neu ddull cyfathrebu arall 
  • loetran mewn man cyhoeddus neu breifat er mwyn gweld person arall heb eu caniatâd 
  • gwylio neu ysbïo ar berson 
  • ymyrryd ag eiddo neu feddiant person 
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd