Nid yw unrhyw fath o wahaniaethu byth yn iawn. Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod wedi cael eich effeithio gan wahaniaethu, yna rydym yn eich annog i adrodd amdano a cheisio cefnogaeth. 
 
Mae gwahaniaethu yn digwydd pan fydd unigolyn neu grŵp o bobl yn cael eu trin yn llai ffafriol nag eraill ar sail nodwedd warchodedig. Y nodweddion gwarchodedig yw: 
  • oedran
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd (hunaniaeth rhywedd)  
  • priodas a phartneriaeth sifil (mewn cyflogaeth) 
  • beichiogrwydd a mamolaeth 
  • hil, lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol 
  • crefydd neu gred (gan gynnwys anghrediniaethau) 
  • rhyw 
  • cyfeiriadedd rhywiol 
Mae sawl math o wahaniaethu ac rydym yn eich annog i adolygu'r wybodaeth isod i ddeall sut mae'r brifysgol yn diffinio'r rhain. 
 
Gwahaniaethu uniongyrchol 
Mae hyn yn golygu trin rhywun yn llai ffafriol na rhywun arall oherwydd nodwedd warchodedig. Er mwyn i rywun ddangos ei fod wedi dioddef gwahaniaethu uniongyrchol, rhaid iddo gymharu'r hyn sydd wedi digwydd iddynt â thriniaeth person heb ei nodwedd warchodedig. 
 
Er enghraifft:
Mae coleg addysg bellach yn gwrthod cais ymgeisydd i gwrs gofal plant gan nad yw'n meddwl ei bod yn briodol gweithio gyda phlant ar sail ei hunaniaeth o ran rhywedd, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol. Byddai hyn yn wahaniaethu uniongyrchol ar sail newid rhyw (hunaniaeth), rhyw a/neu gyfeiriadedd rhywiol. 
 
Mae prifysgol yn rhoi mwy o amser i fyfyriwr â dyslecsia gwblhau ei arholiad na myfyrwyr eraill. Mae myfyriwr nad yw'n anabl yn gofyn am fwy o amser i gwblhau ei arholiad gan ei fod wedi methu cwestiwn drwy ddamwain, ond caiff hyn ei wrthod. Nid yw hyn yn wahaniaethu uniongyrchol. Cafodd y myfyriwr ag anabledd hysbys addasiad rhesymol ar gyfer ei anabledd. 
 
Gwahaniaethu ar sail cysylltiad 
Mae hyn yn golygu trin rhywun yn llai ffafriol na pherson arall oherwydd eu bod yn gysylltiedig â pherson sydd â nodwedd warchodedig (ac eithrio beichiogrwydd a mamolaeth). Gallai hyn ddigwydd pan fydd rhywun yn trin myfyriwr neu aelod o staff yn llai ffafriol oherwydd bod gan eu brawd neu chwaer, rhiant, gofalwr neu ffrind nodwedd warchodedig. 
  
Gwahaniaethu ar sail canfyddiad
Mae hyn yn golygu trin un person yn llai ffafriol na rhywun arall oherwydd eich bod yn meddwl yn anghywir bod ganddo nodwedd warchodedig (heblaw am feichiogrwydd a mamolaeth). 
 
Gwahaniaethu oherwydd beichiogrwydd a mamolaeth
Gwahaniaethu yw trin unigolyn yn llai ffafriol oherwydd ei fod neu wedi bod yn feichiog, wedi rhoi genedigaeth yn y 26 wythnos diwethaf neu'n bwydo babi 26 wythnos neu iau ar y fron. Gwahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw yw trin unigolyn yn llai ffafriol oherwydd ei fod yn bwydo plentyn dros 26 wythnos oed ar y fron.
 
Gwahaniaethu anuniongyrchol 
Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn digwydd pan fyddwch chi'n trin grŵp o bobl yn yr un ffordd ond mae hyn yn cael yr effaith o roi'r rhai yn y grŵp sydd â nodwedd warchodedig dan anfantais. Nid oes ots nad oeddech yn bwriadu rhoi'r rhai â nodwedd warchodedig benodol dan anfantais. 
 
Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn berthnasol i’r holl nodweddion gwarchodedig, ac eithrio beichiogrwydd a mamolaeth, er y gall rhywbeth sy’n rhoi myfyrwyr/cydweithwyr sy’n feichiog neu sydd newydd roi genedigaeth dan anfantais fod yn wahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw.
 
Gall 'anfantais' fod ar sawl ffurf wahanol, megis gwrthod cyfle neu ddewis, ataliaeth, gwrthodiad neu waharddiad.

Er enghraifft:
Dywedir wrth grŵp o fyfyrwyr y bydd gofyn iddynt weithio ar ddydd Sadwrn ar gyfer lleoliad gwaith. Mae un o'r myfyrwyr yn Iddewig ac fel rhan o'i grefydd, yn cadw at y Saboth, sy'n golygu na allant weithio ar ddydd Sadwrn. Er mai dim ond un myfyriwr y mae hyn yn effeithio arno, byddai hyn yn cael ei ystyried yn wahaniaethu anuniongyrchol gan ei fod dan anfantais. 
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd