Sbeicio diodydd yw pan fydd rhywun wedi ychwanegu rhywbeth, er enghraifft, alcohol neu gyffuriau, at eich diod heb i chi wybod. Gall hyn effeithio ar sut rydych chi'n ymddwyn. Mae yna nifer o resymau y gall rhywun sbeicio diod, o sbri neu jôc amhriodol i fwriad maleisus. Mae sbeicio diodydd yn anghyfreithlon, hyd yn oed os nad oes ymosodiad ar y person yr effeithir arno.

Mae sbeicio nodwyddau (a elwir hefyd yn bigiadau sbeicio) yn golygu bod person yn cael ei chwistrellu â chyffur yn ddiarwybod. Gellir gwneud y pigiad gan ddefnyddio unrhyw declyn miniog. 

Gall effeithiau sbeicio diodydd a nodwyddau gynnwys: mynd yn sâl yn sydyn, bod yn sâl iawn, dryswch a methu â symud yn iawn, a cholli cof tan y bore wedyn. Efallai y byddwch yn deffro mewn lle anghyfarwydd neu gartref ond yn methu cofio cyrraedd yno. 
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd