Nid yw unrhyw fath o ymosodiad byth yn iawn. Nid ydym yn goddef ymddygiad annerbyniol, gan gynnwys pob math o ymosodiad. 

Gall rhai mathau o ymosodiad gael eu hystyried yn droseddau neu droseddau casineb. 

Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod wedi cael eich effeithio gan ymosodiad, yna rydym yn eich annog i roi gwybod amdano a cheisio cefnogaeth.
 
Ymosodiad geiriol
Ymosodiad geiriol yw'r defnydd o iaith fygythiol, difenwol neu sarhaus gyda'r bwriad o achosi aflonyddwch, braw neu drallod i rywun arall.
 
Ymosodiad corfforol
Ymosodiad corfforol yw pan fydd unigolyn neu grŵp yn ymosod ar berson yn gorfforol, gyda neu heb ddefnyddio arf, neu'n bygwth brifo'r person hwnnw. Gall gynnwys crafu, gwthio, cicio, dyrnu, taflu pethau, defnyddio arfau neu atal person arall yn gorfforol.
 
Ymosodiad rhywiol
Ymosodiad rhywiol yw pan fydd un neu fwy o bobl yn cyffwrdd â pherson arall yn rhywiol yn fwriadol heb eu caniatâd. Mae’n cynnwys ymosodiadau difrifol iawn fel treisio ac ymosodiad rhywiol, sy’n cynnwys treiddiad heb ganiatâd, yn ogystal â chyswllt corfforol digroeso arall megis: 
  • byseddu
  • cusanu
  • pinsio
  • cofleidio
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd