Nid yw camymddwyn rhywiol, ymosod neu aflonyddu byth yn iawn. Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod wedi dioddef o ymddygiad o’r fath, cofiwch nad eich bai chi oedd yr hyn a ddigwyddodd a chi sy'n dewis beth i'w wneud nesaf.
Rhowch ystyriaeth
- Os oes perygl uniongyrchol o hyd neu os yw rhywun wedi'i anafu'n ddifrifol, cysylltwch â'r gwasanaethau brys ar 999 (neu 112 o ffôn symudol).
- Os yw digwyddiad newydd ddigwydd, ceisiwch ddod o hyd i rywle rydych chi'n teimlo'n ddiogel.
- Meddyliwch am ystyr termau 'camymddwyn rhywiol', 'ymosod' ac 'aflonyddu', fel y'u diffinnir gan PDC. Gall y dudalen Perthnasoedd Afiach, Trais a Cham-drin fod yn ddefnyddiol hefyd.
Rhowch wybod
- Gallwch roi gwybod am ddigwyddiad gan ddefnyddio Adrodd a Chymorth.
Cewch gymorth
- Gall myfyrwyr gysylltu â’r Tîm Lles Meddyliol am amrywiaeth o gymorth a chefnogaeth, neu gysylltu â Chynghorydd Urddas wrth Astudio, neu gael cymorth arall i fyfyrwyr.
- Cymorth i Staff