Cofiwch: nid yw bwlio neu aflonyddu byth yn iawn. P'un a ydych wedi cael eich effeithio'n uniongyrchol neu'n cefnogi rhywun arall, siaradwch a gofynnwch am help. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun—mae cymorth ar gael.

Meddyliwch

  • Berygl uniongyrchol: Os ydych chi neu rywun arall mewn perygl uniongyrchol neu wedi'ch anafu'n ddifrifol, ffoniwch 999 (neu 112 o ffôn symudol).
  • Dod o hyd i le diogel: Os yw digwyddiad newydd ddigwydd, ceisiwch symud eich hun neu'r person arall i fan lle rydych chi'n teimlo'n ddiogel.
  • Deall beth sy'n digwydd: Gall fod yn ddefnyddiol egluro ystyr bwlio neu aflonyddu a sut mae'r ymddygiadau hyn yn cael eu diffinio.

Siaradwch

  • Siaradwch â rhywun rydych yn ymddiried ynddo: Gall ffrind, aelod o'r teulu, cydweithiwr neu aelod o staff fod yn fan cychwyn da ar gyfer rhannu pryderon.
  • Gwrando gweithredol: Os ydych chi'n cefnogi rhywun arall, gall gwrando heb farn fod yn hynod ddefnyddiol. Gallech ddefnyddio technegau gwrando gweithredol (e.e. canolbwyntio ar yr hyn maen nhw'n ei ddweud a gofyn cwestiynau ysgafn, eglurhaol).
  • Tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant PDC: Mae Tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Brifysgol yn hapus i esbonio gweithdrefnau'r Brifysgol, sut i wneud cwyn a pha gymorth sydd ar gael - yn gyfrinachol. E-bostiwch: equality@southwales.ac.uk.

Rhowch wybod

  • Adrodd a Chymorth: Gall myfyrwyr a staff ddefnyddio system Adrodd a Chymorth y Brifysgol. Gallwch ddewis gwneud hyn yn ddienw neu gyda'ch manylion cyswllt. Os byddwch yn darparu eich manylion cyswllt, bydd aelod o staff yn cysylltu â chi’n gyfrinachol i drafod opsiynau a chymorth pellach.

Cewch gymorth

Mae tair ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd